91°µÍø

Prifysgol 91°µÍø yn adnewyddu partneriaeth gyda Mentera

Colin Nosworthy Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Prifysgol 91°µÍø ctn1@aber.ac.uk / +44 7496 914301

Colin Nosworthy Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Prifysgol 91°µÍø ctn1@aber.ac.uk / +44 7496 914301

25 Mawrth 2025

Mae Prifysgol 91°µÍø wedi adnewyddu ei phartneriaeth gyda Mentera, prif gwmni datblygu economaidd annibynnol Cymru.

Mae Ysgol Fusnes 91°µÍø wedi bod yn gweithio gyda Mentera ers 2015 i ddarparu modiwlau ôl-radd, wedi’u hachredu ar lefel 7 ar gyfer y rhieni sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu sy'n dymuno cynorthwyo eraill i ddatblygu eu busnesau.

Mae’r modiwlau’n rhoi cyfle i ennill tystysgrif ôl-raddedig mewn Arwain Newid.

Dywedodd Yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad MyfyrwyrPrifysgol 91°µÍø:

“Rydym yn falch iawn o adnewyddu ein partneriaeth lwyddiannus gyda Mentera. Mae’r cydweithio sydd rhwng ein Hysgol Fusnes a Mentera bellach yn ei degfed flwyddyn ac yn parhau i gyfoethogi gyrfaoedd rheini sy’n ymgymryd â’r modiwlau hyn. Diolch i’r modiwlau a’r cymhwyster sy’n dilyn, mae gan bobl y cyfle i ddatblygu eu sgiliau arwain, cymell a mentora ymhellach o fewn eu swyddi a’u rhoi ar waith ar unwaith.”

Ychwanegodd Dr Wyn Morris, darlithydd yn Ysgol Fusnes 91°µÍø:

“Rydym wrth ein boddau ein bod yn adeiladu ar y berthynas ragorol sydd rhyngom ni a Mentera. Mae’r rhaglenni yn agored i unigolion a busnesau fel ei gilydd ac yn golygu ein bod ni’n gallu ymgysylltu â busnesau a diwallu eu hanghenion hyfforddi gyda chymhwyster ffurfiol. Hoffwn ddiolch i bawb am eu holl waith ar y bartneriaeth wych a ffrwythlon hon.”

Dywedodd LlÅ·r Roberts Prif Weithredwr Mentera:

“Mae Mentera yn falch iawn o adnewyddu’r cydweithrediad llwyddiannus hwn gyda Phrifysgol 91°µÍø.  Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n helpu unigolion a busnesau i dyfu a ffynnu.”

Mae ymhell dros gant o unigolion wedi elwa o’r bartneriaeth hyd at heddiw, gan ddysgu sgiliau proffesiynol mewn meysydd megis Hwyluso ar gyfer Arwain Sefydliad, Hyfforddi a Mentora ar gyfer Arweinwyr ac Arwain Newid.