91°µÍø

Enwi 91°µÍø yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru

91°µÍø

91°µÍø

15 Medi 2023

Mae 91°µÍø wedi’i henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide.

Dyma'r ail dro mewn pedair blynedd i Brifysgol 91°µÍø dderbyn yr anrhydedd.

Cyn hyn cafodd hefyd ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd yr Addysgu gan The Times a'r Sunday Times ddwy flynedd yn olynol.

At ei gilydd, mae'r Brifysgol hefyd wedi cadw ei lle yn y 40 uchaf o’r 134 o brifysgolion yn y DU sy’n ymddangos yn y canllaw eleni.

Ym mis Awst, 91°µÍø oedd y brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, a hynny am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol 91°µÍø: “Mae hon yn dipyn o gamp ac yn un a ddylai fod yn destun balchder mawr i bawb sydd â chysylltiad gyda Phrifysgol 91°µÍø. Mae gan ein prifysgol enw da rhagorol am ansawdd y profiad rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr, ac rydyn ni wedi ymddangos yn gyson ymhlith prifysgolion gorau'r DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr hyn sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl yw ymroddiad a gwaith caled pawb yma yn 91°µÍø, a’u hymrwymiad i ddarparu'r profiad dysgu gorau posibl i'n myfyrwyr.  Mae hwn hefyd yn newyddion gwych i'r gymuned ehangach yma yn 91°µÍø sy'n rhoi croeso mor gynnes i'n myfyrwyr bob blwyddyn.”

Mae canllaw prifysgolion yn cael ei gyhoeddi ar-lein ddydd Gwener 15 Medi, a bydd atodiad 96 tudalen yn dilyn ym mhapur y Sunday Times ddydd Sul 17 Medi.