Enwi 91°µÍø yn Brifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd

91°µÍø
19 Medi 2025
Mae Prifysgol 91°µÍø wedi’i henwi yn Brifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd ac wedi esgyn yn nhablau Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2026.
Enillodd y Brifysgol y wobr gynaliadwyedd am ei datblygiadau newydd ar y campws a’i pherfformiad academaidd mewn pynciau cysylltiedig ac arolygon eraill.
Daw’r anrhydedd diweddaraf hwn i’r Coleg ger y lli’ wedi iddi esgyn i’r 30 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol yn arolwg cynaliadwyedd People & Planet ym maes addysg uwch.
Fel rhan o’i nod o sicrhau ystâd Sero Net erbyn 2030, mae 91°µÍø wedi buddsoddi dros £10 miliwn mewn prosiectau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy.
Mae wedi lleihau ei hallyriadau 43% yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ac yn ddiweddar datblygodd gasgliad o baneli solar 2.5 megawat sy’n cyflenwi bron i 25% o ofynion trydan blynyddol ei champws mwyaf; gan leihau ei hallyriadau carbon o dros 500 tunnell y flwyddyn.
Yn nhablau cyffredinol y Times a’r Sunday Times, cododd 91°µÍø 6 safle, gan gyrraedd rhif 42 allan o’r 133 o brifysgolion yn yr arolwg.
Ym mis Gorffennaf, 91°µÍø oedd y brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, a hynny am y ddegfed flwyddyn yn olynol.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol 91°µÍø, yr Athro Jon Timmis:
“Mae hyn yn llwyddiant ardderchog ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a lleihau ein hallyriadau nwyon tÅ· gwydr. Mae ein buddsoddiadau sylweddol mewn ynni solar yn ogystal â’r camau rydym yn eu cymryd i arbed ynni yn gerrig milltir tuag at ein nod o ddatgarboneiddio’r Brifysgol. Rydym ni’n hynod ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r datblygiadau pwysig hyn.
“Rydym ni’n sefydliad uchelgeisiol: mae rhagoriaeth ein hymchwil a’n dysgu mewn meysydd megis newid hinsawdd yn ysbrydoli pobl i newid bywydau er gwell, yn meithrin gwybodaeth, yn adeiladu cymunedau ac yn cryfhau Cymru a’r byd yn ehangach. Rydym ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd mewn cymaint o ffyrdd â phosibl: nid yn unig drwy gyfrwng ein hymchwil a'n haddysgu ond hefyd drwy ein hamcanion strategol sefydliadol. Mae’r newidiadau a’r buddsoddiadau yn dechrau dwyn ffrwyth, ond mae llawer i’w wneud o hyd wrth i ni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol y mae cymdeithas yn eu hwynebu a gweithio i ddatgarboneiddio ein heconomi er lles y blaned.”
Wrth ymateb i gynnydd cyffredinol Prifysgol 91°µÍø yn nhablau’r Times a’r
Sunday Times, ychwanegodd yr Athro Jon Timmis:
“Mae’n galonogol gweld y cynnydd cyffredinol yn ein safle yn y tablau cynghrair sy’n amlygu unwaith eto ein henw da o ran profiad y myfyriwr ac ansawdd y dysgu yma. Rydym ni’n fan dysgu ac ymchwil cynhwysol a dwyieithog gydag agwedd fyd-eang, wedi’n lleoli yn un o’r mannau mwyaf ysbrydoledig yn y Deyrnas Gyfunol. Mae 91°µÍø yn adnabyddus fel tref gyfeillgar, ddiogel a fforddiadwy, sy’n croesawu staff a myfyrwyr o bob cwr o’r byd i wneud 91°µÍø yn gartref iddynt.”