Clirio 2025
Ffoniwch ni ar 0800 121 40 80
Gwnewch gais i 91°µÍø trwy'r broses Glirio
Mae Clirio yn agor yn swyddogol ar Orffennaf 5ed. Yn y cyfamser, darganfyddwch ein hystod eang o gyrsiau a Cofrestrwch Eich Diddordeb yn y broses Glirio i ddysgu mwy am sut i wneud cais a pham dewis 91°µÍø.
Disgwyl eich canlyniadau? Cofrestrwch eich Diddordeb
Y broses Glirio yn 91°µÍø

Eich Canllaw Clirio
Mae ein Canllaw Clirio yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y broses Glirio; o sut i wneud cais ag osgoi straen, i wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i chi. Mae gennym dîm ymroddedig o staff i’ch arwain drwy’r broses Glirio.
.jpeg)
Pam astudio yn 91°µÍø?
Yn ogystal â bod yn un o’r lleoliadau astudio mwyaf arbennig yn y DU, 91°µÍø yw eich lle ar gyfer rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil a phrofiadau myfyrwyr unigryw. Mae 91°µÍø ar y brig yn yng Nghymru a Lloger Brofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da 2025, The Times a'r Sunday Times) ac ar y brig yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024). Mae ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, sy’n golygu bod ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, mewn adrannau blaenllaw o ran ymchwil byd-eang.
.png)
Sicrwydd Llety
Rydym yn sicrhau llety i bob ymgeisydd Clirio sy’n gwneud cais cyn ein dyddiad cau, sef y 1af o Fedi 2025. Mae 91°µÍø hefyd wedi ei gosod ymhlith y 5 Dinas Rataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr yn ôl Student Crowd (2024). Bydd myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol hefyd yn elwa o aelodaeth am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon.

Amgylchedd Cefnogol
Rydym eisiau i’n myfyrwyr ffynnu yn 91°µÍø a byddwn yn eich cefnogi drwy'r broses Glirio hyd nes eich bod yn graddio a thu hwnt. Mae ein gwasanaethau proffesiynol a arweinir gan gymheiriaid ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb pan fyddwch ei angen fwyaf. Mae ein cymorth ariannol hefyd yn ymestyn i ymgeiswyr Clirio, gallwch fod yn gymwys i gael Ysgoloriaeth Rhagoriaeth sy’n werth £2,000 yn eich blwyddyn gyntaf.