Ditectifs morol yn taflu goleuni ar fywydau cyfrinachol dolffiniaid Bae Ceredigion

Llun 1: Dolffin trwynbwl yn bawio. Llun: Dr Sarah Perry, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Llun i’w ddefnyddio un tro yn unig. Llun 2: Dr David Wilcockson o Brifysgol 91°µÍø a Dr Sarah Perry o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Llun: Prifysgol 91°µÍø.
26 Mai 2025
Caiff rhai o ddirgelion bywydau tanddwr dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion eu datgelu fel rhan o brosiect ymchwil arloesol.
Mae ymchwilwyr o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn treulio amser ar y môr yn casglu baw’r dolffiniaid er mwyn dysgu mwy am eu diet a’u hymddygiad.
Mae’r samplau carthion yn cael eu dadansoddi wedyn gan wyddonwyr ym Mhrifysgol 91°µÍø, sy’n defnyddio’r technegau DNA amgylcheddol diweddaraf (eDNA) i gael data manwl ar ddiet yr anifeiliaid.
Yn ogystal â dangos pa ysglyfaeth y mae'r dolffiniaid wedi bod yn bwydo arno ac ymhle, bydd y profion yn helpu i greu proffiliau unigol ar gyfer pob un.
Bydd y proffiliau hyn yn galluogi tîm y prosiect i nodi rhyw’r dolffiniaid, y perthnasoedd rhwng aelodau’r teulu, maint y boblogaeth, eu potensial bridio a’i patrymau symud.
Yn ogystal, byddant yn ceisio paru a chymharu pob proffil unigryw â chofnodion ffotograffig unigol o ddolffiniaid trwyn potel sydd wedi'u casglu gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru dros gyfnod o sawl blwyddyn.
Bydd y wybodaeth newydd yn llywio ymdrechion cadwraeth forol ym Mae Ceredigion yn y dyfodol ac yn helpu i warchod poblogaeth brin yr ardal o ddolffiniaid rhannol-breswyl.
Mae’r prosiect ‘Ditectifs Diet Dolffiniaid: Dadorchuddio Deietau Dolffiniaid ac Ymgysylltu â Chymunedau ar gyfer Cadwraeth y DU’ yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol 91°µÍø, gyda chymorth gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Sarah Perry, Rheolwr Cadwraeth Forol ac Ymchwil yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru:
"Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn arwain y prosiect arloesol hwn, gan ddefnyddio dulliau DNA amgylcheddol (eDNA) blaengar a thechnegau genetig i ddatrys dirgelion ecoleg dolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion. Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â maes ymchwil yr ydym wedi anelu at gychwyn arno dros y ddegawd ddiwethaf ac rydyn ni’n gyffrous ei fod wedi dwyn ffrwyth ar adeg pan mae’n bwysicach fyth i ni fod yn adeiladu ar ein gwybodaeth am y rhywogaethau yn y dyfroedd o'n cwmpas.
“Bydd ein ffocws trwy ddulliau ymchwil arloesol ar ddeall diet dolffiniaid, deinameg y boblogaeth a sut maen nhw’n rhyngweithio â rhywogaethau ysglyfaethus nid yn unig yn llywio strategaethau cadwraeth hanfodol ond hefyd yn tynnu’r gymuned i mewn. Mae’r prosiect hwn yn ymdrech gydweithredol, sy’n uno gwyddoniaeth a chymuned ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”
Fel rhan o’r prosiect, bydd cyfres o ddiwrnodau gwyddoniaeth cymunedol yn rhoi cyfleoedd i bobl leol ddarganfod mwy am yr astudiaeth ymchwil a helpu i gasglu data ychwanegol am boblogaeth dolffiniaid Bae Ceredigion.
Dywedodd Dr David Wilcockson o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol 91°µÍø:
“Mae ein tîm yn falch iawn o fod yn bartner ar y prosiect ymchwil cyffrous hwn. Mae ein harbenigedd o ran genetig moleciwlaidd a bioleg y môr yn cydblethu â gwaith monitro a chadwraeth rhagorol yr Ymddiriedolaeth Natur ac fe ddylai ddatgelu rhai cyfrinachau hirhoedlog ym maes bioleg dolffiniaid.
“Yr hyn sy’n wirioneddol gyffrous i ni, ar wahân i ddarganfod mwy am beth mae dolffiniaid yn ei fwyta a’u hymddygiad, yw’r ffaith ein bod yn cynnwys y cyhoedd yn y gwaith hwn. Nhw yw’r ‘ditectifs dolffiniaid’ a’n gobaith yw y bydd hyn yn cynnig ffordd arall iddyn nhw gael cysylltiad agosach â’u hamgylchedd lleol ac annog gweithgareddau cadwraeth y tu hwnt i’r prosiect.”
Bydd samplau dŵr hefyd yn cael eu casglu ar adegau ac o leoliadau amrywiol ledled Bae Ceredigion, gyda dulliau eDNA yn cael eu defnyddio eto i ddeall argaeledd ysglyfaeth. Caiff y canfyddiadau yma eu dilysu gan ymchwilwyr a fydd yn defnyddio Systemau Fideo Tanddwr ag abwyd i gofnodi’r rhywogaethau morol sydd yn yr ardal ar y pryd.
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.