Rhannu straeon heddwch ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd

Creodd cyfranogwyr y gweithdy ddarnau collage i gyfleu beth mae heddwch yng Nghymru yn ei olygu iddynt.
20 Mehefin 2025
Mae menter newydd yn defnyddio straeon digidol i ystyried a rhannu profiadau byw’r rheini sydd wedi mudo dan orfod ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.
Dan arweiniad academyddion o Brifysgol 91°µÍø, mae’r prosiect Llwybr Cymreig at Heddwch i nodi (20 Mehefin).
Mae'r prosiect, a ariennir gan Grant Gweithdy Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru dan nawdd yr Academi Heddwch, yn ymateb i’r protestiadau gwrth-fewnfudwyr a’r corddi gan yr asgell-dde eithafol yn y Deyrnas Unedig yr haf diwethaf.
Crëwyd y stori ddigidol yn rhan o weithdy cydweithredol, a wnaeth ddwyn ynghyd academyddion, eiriolwyr dros ffoaduriaid yng Nghymru, gwasanaethau iechyd a sefydliadau diwylliannol.Ìý
Gwahoddwyd y cyfranogwyr i ddefnyddio naratif a delweddau i ymateb yn greadigol i'r cwestiwn 'Beth mae heddwch yng Nghymru yn ei olygu i chi?'.
Dr Gillian McFadyen o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol 91°µÍø yw un o arweinwyr y prosiect. Dywedodd:
“Mae straeon digidol yn cynnig ffordd unigryw, sy’n canolbwyntio ar bobl, o bontio rhwng cymunedau. Mae'n fwy na rhannu straeon yn unig - mae'n ymwneud â meithrin heddwch cadarnhaol trwy empathi, tegwch a dealltwriaeth.
“Dangosodd y trais a'r aflonyddwch a welwyd yn ystod y protestiadau gwrth-fewnfudo ledled y DU yr haf diwethaf pa mor fregus y gall heddwch fod yn wyneb y corddi gan yr asgell-dde eithafol a’r rhagfarn yn erbyn mudwyr. Mae ein prosiect yn ymateb uniongyrchol, sy’n gyfle i gymunedau ddysgu mwy am brofiadau byw’r rhai sy’n mudo dan orfod, er mwyn herio mythau ac ystrydebau, meithrin empathi ac ymdeimlad o berthyn, a chreu Cymru heddychlon.”
Ychwanegodd Dr Arddun Arwyn o'r Adran Hanes a Hanes Cymru:
“Ers canrifoedd, mae pobl wedi dod i Gymru i chwilio am ddiogelwch, gwaith ac ymdeimlad o berthyn, ac mae’r ymatebion wedi bod yn gymysg. Mae mudo wedi ffurfio, ac mae’n parhau i ffurfio, ein cymunedau mewn pob math o ffyrdd.
“Roedd ein gweithdy yn gyfle i edrych ar naratifau hanesyddol a chyfoes am fudo dan orfod i Gymru, ac i ystyried sut y gellir defnyddio straeon digidol i addysgu, meithrin cysylltiadau a helpu cymunedau i gymodi.”
Yn rhan o'r prosiect, creodd cyfranogwyr y gweithdy ddarnau collage i gyfleu beth mae heddwch yng Nghymru yn ei olygu iddynt. Bydd y gweithiau celf hyn yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa deithiol genedlaethol gan ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Athina Summerbell o , a fu’n cydweithio ar y prosiect:
“Mae creu mannau lle gall ceiswyr noddfa, ffoaduriaid a mudwyr rannu eu straeon yn ffordd o herio ystrydebau, ac ar ben hynny gall newid bywydau. Gall straeon addysgu pobl, a’u helpu i ddeall ei gilydd. Ac mewn byd lle mae’r lleisiau sy’n ein rhannu yn fwy croch na’r rhai sy’n galw am undod, adrodd straeon yw un o'r arfau mwyaf grymus sydd gennym.”
Arweiniwyd y prosiect gan Brifysgol 91°µÍø, a fu’n gweithio ar y cyd â ; ; a .ÌýÌý
Bydd cam nesaf y prosiect yn cael ei gefnogi gyda chyllid gan Hwb ACE Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn meithrin cyswllt â chymunedau amrywiol ac yn astudio straeon digidol ymhellach fel ffordd o hyrwyddo heddwch cadarnhaol yng Nghymru.
Bydd tîm y prosiect hefyd yn datblygu pecyn cymorth ar straeon digidol - gan gasglu naratifau am fudo dan orfod - i'w ddefnyddio ar draws sectorau fel adnodd i feithrin heddwch. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu cadw gyda , gan greu gwaddol hirdymor i'r prosiect.