Cwilt cyfeillgarwch ffoaduriaid yn plethu cysylltiadau newydd yn 91做厙
Cyfranogwyr yn y digwyddiad Dathlu ein Cymuned Amrywiol
20 Mehefin 2025
Mae cwilt cyfeillgarwch unigryw yn cael ei blethu at ei gilydd mewn cydweithrediad creadigol yng nghanol dathliadau Wythnos Ffoaduriaid 91做厙.
Mae llawer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y prosiect, a drefnir gan y fenter Cymuned Greadigol ym Mhrifysgol 91做厙, wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl ffoi rhag gwrthdaro neu erledigaeth yn eu gwledydd cartref, gan gynnwys Syria, Wcráin, Nigeria a Chamer霾n.
Mae'r prosiect yn dathlu hanes amrywiol a chymuned gyfoes Cymru drwy ddefnyddio technegau tecstilau arloesol a ffyrdd traddodiadol Cymreig o wneud cwiltiau yn unol â thema Wythnos Ffoaduriaid 2025, sef 'cymuned'.
Cefnogir y prosiect gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, ac yn ddiweddarach eleni bydd y cwilt gorffenedig Cyfeillgarwch 91做厙 yn cael ei arddangos yn gyhoeddus ledled Cymru fel rhan o arddangosfa ‘Llunio Cenhedloedd’ y sefydliad.
Dywed y trefnwyr fod y gweithgaredd yn ffordd o ystyried sut y gall ymarfer creadigol helpu i feithrin cysylltiadau o fewn a rhwng cymunedau a chefnogi dealltwriaeth a gofal ar y cyd.
Dywedodd y cyd-drefnydd Dr Katy Budge, darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol 91做厙 a chydlynydd y prosiect Cymuned Greadigol:
“Mewn cyfnod o wleidyddiaeth gynyddol elyniaethus a rhaniadol, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd i greu cysylltiadau a sgyrsiau ar draws ffiniau canfyddedig. Drwy'r prosiect Cymuned Greadigol, rydym ni’n cydnabod, drwy ystyried safbwyntiau a mewnwelediadau sy'n aml yn cael eu gwthio i'r ymylon mewn sgyrsiau cyhoeddus, polisi ac academaidd - gan gynnwys rhai pobl sydd â hanes o ddadleoli a mudo - y gallwn ddysgu cymaint am sut y gallwn greu cymunedau ar y cyd sy'n ein cynnal ni i gyd.”
Lansiwyd prosiect Cwilt Cyfeillgarwch 91做厙 yn y digwyddiad Dathlu Ein Cymuned Amrywiol yn y bandstand ar bromenâd 91做厙 ddydd Sadwrn 21 Mehefin.
Yn ogystal â chyfrannu at y cwilt cyfeillgarwch, mwyhaodd ymwelwyr weithgareddau creadigol i blant, darlleniadau barddoniaeth gan Lysgenhadon Noddfa Aruni McShane a Dr Tarh Martha Ako Mfortem, perfformiadau gan gerddorion lleol, a'r cyfle i ddysgu dawns werin Arabaidd ac Wcrainaidd.
Dywedodd y cyd-drefnydd Dr Naji Bakti, awdur Libanaidd, darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 91做厙, a chydlynydd y prosiect Cymuned Greadigol:
“Yn ein digwyddiad Wythnos Ffoaduriaid yn 2024, fe wnaethon ni ystyried pryderon, blaenoriaethau ac anghenion cymunedau ffoaduriaid yn 91做厙, a chlywson ni’r awydd cryf am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymarfer creadigol ar y cyd, ac i gysylltu â'n hamgylchedd cyfagos. Mae'r Cwilt Cyfeillgarwch yn plethu'r rhain at ei gilydd drwy ddathliad creadigol o gymuned a natur, ac yn ategu'r gweithgareddau eraill rydyn ni wedi'u cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys brodwaith, ffotograffiaeth, crefftau coetir a syrffio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi i gymryd rhan mewn dulliau tebyg, er mwyn sicrhau bod mentrau cydlyniant cymunedol yn cael eu harwain gan flaenoriaethau cymunedau ffoaduriaid eu hunain.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Ffoaduriaid Cymru:
"Mae prosiect Llunio Cenhedloedd yn un sy'n clymu celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru ynghyd. Nod y prosiect yw dod â nifer o gymunedau sy'n byw yng Nghymru ynghyd, gan gynnwys unigolion â chefndiroedd mudo i ystyried y edafedd cyffredin o ddiwylliant a chelf sy'n ein cysylltu ni i gyd. Mae'r prosiect hefyd yn dathlu hanes bywiog mudo yng Nghymru a sut mae wedi cyfrannu at adeiladu'r diwylliant Cymreig cyfoes rydyn ni'n ei adnabod ac yn ei garu heddiw. Mae Llunio Cenhedloedd yn enghraifft wych o ddod â phobl ynghyd mewn cyfnod o raniad."
Mae prosiect y Gymuned Greadigol yn cael ei ariannu gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn ogystal â rhaglen AberCollab Prifysgol 91做厙, Cronfa Effaith Ymchwil a chanolfan ymchwil ‘Y Bydoedd a Garem’. Cafodd cydlynwyr y prosiect, Naji Bakhti a Katy Budge, eu cydnabod yn ddiweddar am eu gwaith yn cefnogi cymunedau ffoaduriaid yng Ngwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru.