91°µÍø

Bryn Terfel i ddathlu 150 mlwyddiant Adran Gymraeg 91°µÍø

Cymrawd Prifysgol 91°µÍø, Bryn Terfel

Cymrawd Prifysgol 91°µÍø, Bryn Terfel

24 Mehefin 2025

Bydd yr arwr operatig Bryn Terfel yn ymuno â chantorion ifanc disglair mewn cyngerdd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol 91°µÍø fis nesaf.

Bydd y canwr byd-enwog yn ymuno ag Archdderwydd Cymru, yr Athro Mererid Hopwood, a’r pianydd Zoe Smith ar 28 Gorffennaf yng Nghanolfan Celfyddydau 91°µÍø.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys caneuon gan rai o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru a chyda geiriau gan rai o feirdd mwyaf adnabyddus y wlad.

Dros y blynyddoedd, mae Bryn Terfel, sy’n Gymrawd o Brifysgol 91°µÍø, a Mererid Hopwood wedi cydweithio ar amryw o gyngherddau.  Ym mis Tachwedd y llynedd, ar y cyd â Choleg Cerdd a Drama Cymru, bu’r ddau’n dathlu gwaith rhai o gyfansoddwyr nodedig Cymru, yn benodol Meirion Williams, o dan y teitl: ‘Pan ddaw’r nos’.

Roedd Meirion Williams yn un o fyfyrwyr mwyaf blaengar Adran Gerddoriaeth 91°µÍø lle bu’n astudio o dan gyfarwyddyd Walford Davies ar ddechrau’r 1920au.

Wrth i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd nodi ei phen-blwydd yn 150, manteisiwyd ar gyfle i ddod â ‘Pan ddaw’r nos’ i 91°µÍø ac i raglen Gŵyl Gerdd yr haf (Musicfest) gyda chyfuniad newydd o ganeuon.

Dywedodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol  91°µÍø Dr Rhianedd Jewell:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyngerdd arbennig hwn i nodi pen-blwydd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn 150. Dyma gyfle i groesawu cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a'r dyfodol i ddathlu hanes hir a llewyrchus yr Adran a phwysigrwydd geiriau, barddoniaeth a cherddoriaeth i'w gwaith.”

Y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, cafodd Coleg Prifysgol Cymru yn 91°µÍø ei sefydlu yn 1872, a phenodwyd ei Athro Cymraeg cyntaf, Daniel Silvan Evans, ym 1875. 

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol 91°µÍø yn gallu hawlio rhai o lenorion ac ysgolheigion mwyaf disglair Cymru fel rhan o’i hanes, gan gynnwys  T. H. Parry-Williams, T. Gwynn Jones, D. Gwenallt Jones (‘Gwenallt’), Bobi Jones a Mihangel Morgan.

Ers y 1980au, enillodd llu o fyfyrwyr yr Adran brif wobrau llenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr yr Adran sy’n awduron Cymraeg blaenllaw y mae Robin Llywelyn, William O. Roberts, Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd, Twm Morys, Lleucu Roberts, Meleri Wyn James, Catrin Dafydd, Marged Tudur, Carwyn Eckley ac Iestyn Tyne.

Ychwanegodd yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol 91°µÍø:

“Bydd y cyngerdd yn gyfle i ddathlu awen rhai o feirdd enwocaf Cymru sydd wedi ysbrydoli cyfansoddwyr cerdd ar hyd y canrifoedd, a gwaith sydd wedi bod yn gonglfaen i astudiaethau’r Adran.

“Cawn glywed cerddi gan lenorion fel T Gwynn Jones, sydd â chysylltiadau uniongyrchol â’r Adran, ynghyd â gwaith beirdd adnabyddus eraill fel Elfed, Crwys, Eifion Wyn a Ceiriog. Bydd y cyngerdd yn cyfosod y caneuon hyn o Gymru â chaneuon o’r Almaen, Ffrainc ac Awstria ac yn gyfle i fwynhau athrylith Bryn Terfel ochr yn ochr â rhai o leisiau gorau myfyrwyr Coleg Cerdd a Drama Cymru.”

Mae tocynnau ar gael wefan Canolfan Celfyddydau 91°µÍø: