Lansio adnodd newydd i athrawon i gefnogi’r cwricwlwm newydd

Cynhadledd Ymholi a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 91°µÍø
30 Mehefin 2025
Mae ymchwilwyr Prifysgol 91°µÍø wedi lansio adnoddau newydd er mwyn cynorthwyo athrawon i roi’r cwricwlwm newydd i Gymru ar waith.
Dechreuodd Llywodraeth Cymru gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022 ac mae academyddion o Brifysgol 91°µÍø wedi bod yn cefnogi athrawon i’w ddatblygu a’i wireddu yn llawn.
Fel rhan o’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol, mae Dr Siân Lloyd-Williams a Gwilym ap Gruffudd wedi cyhoeddi llyfryn newydd am ymholi proffesiynol.
Ei nod yw cefnogi ac arwain ymarferwyr addysgol sydd â diddordeb mewn datblygu eu harfer trwy wneud newidiadau yn yr ystafell ddosbarth.
Daeth y lansiad yn ystod cynhadledd a gynhaliwyd gan Ysgol Addysg y Brifysgol ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion a gynigiodd y cyfle i ymarferwyr rannu arfer da ymysg ysgolion.
Meddai Dr Siân Lloyd-Williams o Ysgol Addysg Prifysgol 91°µÍø:
“Rwy’n falch iawn o gefnogi addysgwyr gyda’r gwaith hynod o bwysig sydd ganddyn nhw wrth iddyn nhw fireinio eu dulliau ymholi. Rwy’n mawr gobeithio y bydd yr adnoddau newydd hyn o gymorth i lawer. Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig cyfle i’r holl broffesiwn fyfyrio ar sut y gallwn ni roi’r addysg orau bosibl i’r genhedlaeth nesaf.”
Ychwanegodd Alwyn Ward, Cydlynydd Gyrfa Cychwynnol Athrawon Cyngor Sir Ceredigion:
“Rwy’n croesawu’r adnodd newydd hwn sy’n mynd i fod o gymorth mawr i athrawon sydd wrthi’n datblygu ymholi proffesiynol yn eu hysgolion. Wedi’i seilio ar brosiect cenedlaethol, mae’n cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ac yn cynnig dulliau i wella arferion addysgu drwy ymchwil a thystiolaeth, gan gryfhau canlyniadau i ddysgwyr.”
Ceir copi o’r llyfryn newydd drwy fynd i wefan Ysgol Addysg Prifysgol 91°µÍø: Adnoddau ar gyfer Ymholi Proffesiynol: Canllaw ar gyfer addysgwyr