91°µÍø

Cynhadledd ar fudo yn trafod newid hinsawdd a chreu ffiniau

Rhai o'r mynychwyr yn iMigMob

Rhai o'r mynychwyr yn iMigMob

11 Gorffennaf 2025

Cafodd y tueddiad cynyddol o bobl yn ffoi rhag newid hinsawdd ei drafod mewn cynhadledd ar fudo a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 91°µÍø.

Arweiniwyd trafodaeth am y posibilrwydd o symud at nomadiaeth hinsoddol gydag araith allweddol gan Dr Giovanni Bettini.

Buodd anerchiadau o bwys hefyd gan Yr Athro Michaela Benson am fudo a chreu ‘Prydain Fyd-eang’ a Dr Sophie Cranston a siaradodd am sut y caiff myfyrwyr tramor eu categoreiddio.

Ymhlith y pynciau eraill a drafodwyd oedd newidiadau ôl-Frecsit, iechyd a gofal a phrofiadau mewn gwledydd megis Ghana, Sudan a’r Eidal. 

Dyma oedd pedwaredd iMigMob: y gynhadledd benodol gyntaf ar ddaearyddiaeth mudo a symudedd. Cynhaliwyd yr un gyntaf yn 2016.

Dywedodd un o drefnwyr y gynhadledd, Dr Catrin Wyn Edwards o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol 91°µÍø:

“Braint oedd cael cynnal y gynhadledd bwysig hon yma. Roedd y trafodaethau a safon y siaradwyr yn dyst i ehangder ac amrywiaeth yr ymchwil academaidd ar fudo a symudedd sydd ar y gweill. Mae’r gwaith yn cwmpasu themâu eang damcaniaeth, methodoleg, graddfa, ymgorfforiad, gwleidyddiaeth, gwahaniaethau cymdeithasol, cymunedau a rheolaeth.

“Mae ein hymchwil yn 91°µÍø yn ystyried sawl agwedd o fudo - o allfudo o ardaloedd gwledig i brofiadau’r rheiny a ffoes yn yr Ail Ryfel Byd. Yn yr oes sydd ohoni, mae ymchwil o’r fath yn hanfodol os ydym ni fel cymdeithas yn mynd i ystyried y cyfleoedd a heriau yn iawn.”

Ychwanegodd cyd-drefnydd y gynhadledd, Dr Ellen Hjort o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol 91°µÍø:

“Prin fod diwrnod yn mynd heibio pan nad oes newyddion am fudo, boed hynny yn sgil gwrthdaro rhyngwladol neu tywydd eithafol . Heb os, un o’r rhesymau a welwn fudo yw newid hinsawdd felly roedd yn bwysig i ni roi sylw penodol i hynny yn y gynhadledd. Does dim amheuaeth bod y berthynas rhwng y newid hinsoddol a phatrymau mudo yn bwnc sy’n mynd i hawlio sylw llywodraethau o bob cwr o’r byd dros y degawdau i ddod.”

Dywedodd Dr David McCollum Cadeirydd Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Poblogaeth RGS-IBG:

“Roedd yn bleser mynd â’r gynhadledd i 91°µÍø eleni. Hoffem estyn diolch arbennig i Catrin, Ellen, a Rhys am ymgymryd â’r dasg nid ansylweddol o redeg y digwyddiad mawr hwn.”