Nifer uchaf erioed yn mynychu cwrs ehangu mynediad 91°µÍø

Rhai o'r bobol ifanc a wnaeth mynychu ein rhaglen breswyl haf
11 Gorffennaf 2025
Mae’r nifer uchaf erioed o bobl ifanc wedi mynychu rhaglen breswyl haf Prifysgol 91°µÍø sy’n cynnig rhagflas o fywyd myfyrwyr.
Cymerodd saith deg o ddisgyblion Blwyddyn 12 ran yn Aber Ar Agor, rhaglen bum niwrnod sy'n cyfuno astudio academaidd, ymweliadau addysgol a digwyddiadau cymdeithasol gyda'r nos. Arhoson nhw yn neuadd Pantycelyn ar Gampws Penglais.
Cynlluniwyd y rhaglen ar gyfer pobl ifanc sy’n dod o gefndiroedd Ehangu Cyfranogiad a chynigiwyd y cyfle i aelodau’r grŵp ddilyn sesiynau mewn ystod eang o’r meysydd academaidd sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol 91°µÍø, o Wyddoniaeth Filfeddygol a Ffiseg i Wleidyddiaeth Ryngwladol ac Ysgrifennu Creadigol.
Gyda’r dewis o fynychu darlithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys sesiwn ar gyllid myfyrwyr a sut i wneud y mwyaf o’r cymorth ariannol sydd ar gael.
Wedi’i ail-lansio yn 2023 yn dilyn egwyl oherwydd y pandemig COVID-19, mae Aber Ar Agor yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Prifysgol 91°µÍø i annog pobl ifanc o gefndiroedd sy’n llai tebygol i ystyried astudio mewn prifysgol.
Denodd y rhaglen eleni, a gynhaliwyd y mis hwn, fyfyrwyr o 38 o ysgolion a cholegau ledled Cymru.
Dywedodd Lucy Stevenson, Pennaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr ym Mhrifysgol 91°µÍø:
“Rydym yn falch iawn o lwyddiant y rhaglen eleni, ac yn ddiolchgar i’r holl staff academaidd a myfyrwyr am eu cyfraniad gwerthfawr. Mae'r cyfnod pontio o'r ysgol neu goleg i'r brifysgol – yn enwedig pan fo hynny'n golygu gadael cartref am y tro cyntaf – yn gallu teimlo'n heriol i lawer o bobl ifanc. Mae Aber Ar Agor yn cynnig cyfle gwerthfawr i brofi amgylchedd academaidd realistig sy'n dangos sut beth yw bywyd myfyriwr ym Mhrifysgol 91°µÍø.
“Mae Aber yn gymuned o academyddion a myfyrwyr o bob rhan o’r byd, ac yn sefydliad uchelgeisiol, yn gynhwysol, ac yn ddwyieithog. Mae rhagoriaeth ein hymchwil a’n dysgu yn ysbrydoli pobl i newid bywydau er gwell, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach. Trwy gyflwyno'r amrywiaeth o bynciau sydd ar gael, ein nod yw tanio brwdfrydedd ac annog myfyrwyr i ystyried y cam nesaf, ac elwa o’n cymuned, tuag at astudio gradd – boed hynny yma yn 91°µÍø neu mewn prifysgol arall.”
Derbyniodd y myfyrwyr a gwblhaodd y rhaglen yn llwyddiannus eleni dystysgrif a chynnig cyd-destunol am le i astudio ym Mhrifysgol 91°µÍø ym mis Medi 2026.
Ychwanegodd Lucy Stevenson o Brifysgol 91°µÍø:
"Yn 91°µÍø, rydym ni’n benderfynol o wneud addysg uwch yn hygyrch i bobl ifanc, ac yn falch bod Aber Ar Agor wedi galluogi'r grŵp hwn i gael blas ar fywyd prifysgol. Rydym ni’n mawr obeithio bod y rheiny sydd wedi dod eleni wedi gweld gwerth astudio yn y brifysgol ac wedi dewis mynd ymlaen i elwa o radd Prifysgol 91°µÍø."