Academydd o 91°µÍø wedi’i phenodi’n Llywydd Cymdeithas Tir Glas Prydain

Dr Christina Marley
15 Gorffennaf 2025
Mae Dr Christina Marley, academydd ym Mhrifysgol 91°µÍø, wedi’i phenodi’n Llywydd Cymdeithas Tir Glas Prydain.
Wedi'i sefydlu ym 1945, mae’r Gymdeithas yn sefydliad aelodaeth sy'n cefnogi defnydd cynaliadwy a phroffidiol o laswellt a phorthiant.
Mae'n uno ymchwilwyr, ffermwyr, ymgynghorwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol diwydiant drwy ddigwyddiadau a chyhoeddiadau sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ymarfer glaswelltir.
Eleni bydd yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r mudiad, sydd bellach yn cynnwys bron i 4000 o aelodau.
Ei Llywydd cyntaf oedd y gwyddonydd dylanwadol Syr George Stapledon, a sefydlodd Orsaf Bridio Planhigion Cymru yn 91°µÍø ym 1919.
Aeth y safle ymchwil hwnnw ymlaen i ffurfio Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) heddiw lle mae Dr Marley bellach yn gweithio, ac sy'n rhan o Brifysgol 91°µÍø.
Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Dr Christina Marley:
“Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi’n llywydd y sefydliad mawreddog hwn. Mae’r Gymdeithas wedi chwarae rhan bwysig drwy gydol fy ngyrfa, gan fy nghyflwyno i rwydwaith o weithwyr proffesiynol o’r un anian a darparu cyfleoedd i gydweithio. Rwy’n arbennig o falch ein bod yn dathlu 80 mlynedd y Gymdeithas yma yn 91°µÍø, gan amlygu’r cysylltiad â’r gwaith a ddechreuodd Syr George Stapledon. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r traddodiad hwnnw a gweithio gyda’n haelodau i dynnu sylw at bwysigrwydd glaswelltiroedd cynaliadwy a chynhyrchiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae ymchwil Dr Marley yn canolbwyntio ar systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil cynaliadwy, gyda phwyslais ar wella effeithlonrwydd defnyddio maetholion o'r pridd i'r anifail, lleihau dibyniaeth ar borthiant wedi'i fewnforio, a defnyddio maeth i wella iechyd anifeiliaid a chanlyniadau amgylcheddol.
Roedd Syr George Stapledon, Llywydd cyntaf y Gymdeithas a sylfaenydd Gorsaf Bridio Planhigion Cymru, yn wyddonydd glaswelltir arloesol a gosododd ei waith y sylfeini ar gyfer gwyddoniaeth glaswelltir fodern a chynhyrchu porthiant cynaliadwy.
Dywedodd Tom Goatman, Prif Weithredwr Cymdeithas Glas Tir Prydain:
“Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Christina Marley fel ein Llywydd newydd. Mae Christina yn dod â chyfoeth o brofiad, fel ymchwilydd ac fel eiriolwr dros amaethyddiaeth gynaliadwy. Bydd ei harbenigedd yn amhrisiadwy wrth i ni ddathlu 80 mlynedd o’r Gymdeithas ac edrych ymlaen at ddyfodol gwyddoniaeth glaswelltir a’i rôl hanfodol yn y sector amaethyddol.”
Cymerodd Dr Marley yr awenau gan y llywydd sy'n ymddeol Graham Parks, ffermwr cig eidion o Macclesfield, Swydd Gaer, yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Tir Glas Prydain a gynhaliwyd yn IBERS, Prifysgol 91°µÍø y mis hwn.