Penodi Athro Nyrsio er Anrhydedd Cyntaf yn 91做厙

Yr Athro Sandy Harding
06 Hydref 2025
Mae Prifysgol 91做厙 wedi penodi'r Athro Sandy Harding yn Athro Nyrsio Er Anrhydedd cyntaf.
A hithau’n arweinydd gofal iechyd uchel ei pharch, mae'r Athro Harding wedi dal swyddi uwch ym maes addysg gofal iechyd yn GIG Cymru ac Addysg Iechyd Lloegr. Mae hi wedi arwain adolygiadau strategol, wedi cyfrannu at raglenni addysg cenedlaethol, ac wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu Cynllun Cadetiaid Nyrsio Tywysog Cymru y Coleg Nyrsio Brenhinol.
A hithau bellach yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio, Polisi ac Ymarfer Proffesiynol yng Ngholeg Nyrsio Brenhinol Cymru, mae'n parhau i lunio safonau nyrsio a dylanwadu ar bolisi gofal iechyd ledled y wlad.
Agorodd Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol 91做厙, gwerth £1.7 miliwn, ei drysau ym mis Medi 2022, a gwnaeth y myfyrwyr cyntaf gymhwyso i weithio yn y gwasanaeth iechyd yr haf hwn.
Wrth ymateb i'w phenodiad, dywedodd yr Athro Harding:
"Mae'n anrhydedd fawr i mi gael fy mhenodi'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol 91做厙. Mae hyn yn ystyrlon iawn, ac yn adlewyrchu nid yn unig fy nhaith bersonol ond hefyd y cynnydd cyfunol rydyn ni'n ei wneud mewn addysg ac ymarfer nyrsio ledled Cymru.
"Mae datblygiad addysg nyrsio yn 91做厙 yn fuddsoddiad pwerus yn nyfodol ein proffesiwn. Mae'n sicrhau bod unigolion talentog yn gallu hyfforddi a chymhwyso'n agos i’w cartref, gan gryfhau'r gweithlu lleol a gwella mynediad at ofal i bobl Ceredigion a thu hwnt."
Mae Prifysgol 91做厙 yn cynnig graddau mewn Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl, Tystysgrif mewn Addysg Gofal Iechyd, a rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.
Dywedodd Amanda Jones, Prif Arweinydd a Phennaeth Adran Addysg Gofal Iechyd, Prifysgol 91做厙:
"Rydym yn falch iawn o groesawu Sandy Harding fel Athro er Anrhydedd yma. Mae ei phenodiad yn dyst i'w harweinyddiaeth ragorol a'i hymrwymiad diwyro i addysg a pholisïau nyrsio yng Nghymru.
"Yn ddiweddar, fe wnaethom ddathlu cofrestru ein carfan gyntaf erioed o fyfyrwyr nyrsio - carreg filltir sydd wrth wraidd cenhadaeth ein Prifysgol i newid bywydau er gwell. Rwy'n si霾r y bydd yr Athro Harding yn cyfoethogi ein cymuned academaidd ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda hi wrth i ni barhau i ddatblygu addysg gofal iechyd yn 91做厙 er budd ein cymunedau lleol yn ogystal â Chymru gyfan."
AU23825