Daearyddwr o 91°µÍø yn ennill un o brif anrhydeddau’r Unol Daleithiau am ei ymchwil i afonydd mewn diffeithdir

Yr Athro Stephen Tooth gyda'r Athro Karen Gran, Cadeirydd Adran Daeareg Cwaternaidd a Geomorffoleg Cymdeithas Ddaearegol America
23 Hydref 2025
Mae arbenigwr blaenllaw ar amgylcheddau diffeithdir o Brifysgol 91°µÍø wedi derbyn gwobr ryngwladol nodedig am ei waith mewn seremoni yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd yr Athro Stephen Tooth gan Gymdeithas Ddaearegol America.ÌýÌý
Cyflwynir y wobr academaidd yn flynyddol am gorff o waith rhagorol ym maes ymchwil diffeithdiroedd cynnes.
Yr Athro Tooth yw'r 28ain unigolyn i dderbyn y wobr a’r academydd cyntaf o Gymru i ennill yr anrhydedd, a dim ond y trydydd academydd erioed o’r DU.
Mae ei ymchwil wedi gwella’r ddealltwriaeth o sut mae afonydd mewn diffeithdiroedd yn ffurfio, esblygu, ac yn rhyngweithio â'u tirweddau. Mae ei waith maes wedi cwmpasu Awstralia, de Affrica, de Ewrop, Gogledd a De America ac India.
Derbyniodd yr Athro Tooth y wobr yng nghyfarfod yr hydref o Gymdeithas Ddaearegol America yn San Antonio, Texas lle, mewn ymateb i wahoddiad, rhoddodd gyflwyniad yn ystyried dros dri degawd o waith ymchwil ar systemau afonydd mewn diffeithdiroedd.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, meddai’r Athro Tooth:
"Mae'n anrhydedd aruthrol derbyn y wobr hon gan Gymdeithas Ddaearegol America. Mae afonydd mewn diffeithdiroedd ymhlith y systemau mwyaf deinamig a diddorol ar y Ddaear, ond o ran eu hastudio, maent wedi'u hesgeuluso o'u cymharu ag afonydd mewn rhanbarthau gwlypach. Rwy'n falch bod fy ngwaith wedi helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o'r systemau hyn, yn enwedig trwy dynnu sylw at lawer o nodweddion anarferol yr afonydd a thrwy fynd i'r afael â llawer o gamsyniadau ynglÅ·n â’u prosesau.
"Mae gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol 91°µÍø hanes hir o ymchwil i amgylcheddau diffeithdir, ac rwy'n arbennig o falch o allu cynrychioli'r adran, y Brifysgol a Chymru ar y llwyfan rhyngwladol."
Wrth enwebu’r Athro Tooth ar gyfer y wobr, dywedodd yr Athro Emeritws Gerald C. Nanson o Ysgol Atmosffer y Ddaear a’r Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Wollongong, Awstralia:
"Nid oes un geomorffolegydd arall wedi gwneud mwy i ddatblygu ein dealltwriaeth fodern o faes geomorffoleg afonydd y diffeithdir (tir sych) yn fyd-eang, i hyrwyddo syniadau a thystiolaeth newydd, a chywiro argraffiadau a grëwyd rhai degawdau yn ôl am y systemau hyn sy'n aml yn cael eu camddeall. Mae’r Athro Tooth yn wyddonydd arloesol, craff, beirniadol a gweithgar iawn ar ganol ei yrfa, â hanes eithriadol mewn gwaith ymchwil i ddiffeithdiroedd, yn ysgolhaig sy’n llawn haeddu Gwobr El Baz.
Yr Athro Stephen Tooth
Graddiodd yr Athro Stephen Tooth gyda BSc mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Southampton a chwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Wollongong, Awstralia. Roedd ganddo swyddi ym Mhrifysgol Nottingham a Phrifysgol Witwatersrand, De Affrica, cyn ymuno â Phrifysgol 91°µÍø yn 2000.
AU25425
