Gwaith yr Hen Goleg yn datgelu olion tân mawr 1885

Yr Hen Goleg ar dân: llosgwyd rhan helaeth o adain ogleddol yr adeilad gan y tân ar noson 8/9 Gorffennaf 1885.
05 Ebrill 2024
Daeth gweddillion y tân mawr a ddinistriodd lawer o Hen Goleg Prifysgol 91°µÍø i’r golwg wrth i’r gwaith i adfer yr adeilad rhestredig Gradd 1 brysuro.
Yn ôl un adroddiad, achoswyd y tân ar noson yr 8fed/9fed o Orffennaf 1885 gan wastraff cotwm oedd wedi cynnau’n ddigymell ar ôl ei ddefnyddio i lanhau arbrofion cemegol yn adran y labordai yn nho rhan ogleddol yr adeilad.* TÅ·’r Castell, cartref y Prifathro, a’r adain ddeheuol oedd yr unig rannau na losgwyd.
Goruchwyliwyd llawer o’r gwaith ailadeiladu gan y pensaer J P Seddon, a fu’n gweithio ar yr adeilad i’r Brifysgol wrth iddi baratoi i groesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 1872.
Gyda’r £10,000 o arian yswiriant a’r hyn a godwyd gan ymgyrch godi arian dan arweiniad y Prifathro Thomas Charles Edwards, cyllidwyd y gwaith arweiniodd at adeiladu’r Cwad, a ddaeth yn galon i’r Hen Goleg.
Yr Hen Goleg ar ôl y tân.
Yn yr Hen Goleg ar ei newydd wedd bydd y Cwad yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw, a Chanolfan Ddeialog gyntaf y DU.
Mae’r cynlluniau ar gyfer adfer y Cwad yn cynnwys gosod llawr newydd ar ôl i waith archwilio ddatgelu bod angen cryfhau'r llawr gwreiddiol a oedd yn cynnwys concrit wedi'i gymysgu â brics wedi torri a hyd yn oed llwch glo.
Rhan o hen lawr y Cwad.
Mae’r gwaith paratoi wedi cynnwys clirio rhannau o seler yr Hen Goleg ac agor gofodau ar ochr Stryd y Brenin o’r adeilad y credir eu bod wedi’u cau ar ôl y tân.
Mae’r gwaith wedi datgelu pren wedi llosgi a waliau wedi duo sy’n tystio i ddwyster y tân a laddodd dri dyn lleol yn ystod ymdrechion i ddiffodd y fflamau ac achub yr adeilad a’i gynnwys.
Darn o bren wedi llosgi a photeli gwydr a daeth i’r golwg wrth ostwng y lloriau ar gyfer yr orielau newydd.
Mae arwyddion pellach i'w gweld yn nenfwd y seler lle gosodwyd llawr y Cwad ar rwbel o'r tân.
Eisoes mae'r tîm adeiladu wedi dod o hyd i ragor o dystiolaeth o'r tân wrth iddyn nhw ddatblygu'r orielau arddangos newydd fydd yn rhedeg gyfochr â’r Cwad.
Bydd yr orielau newydd yn cynnal arddangosfeydd o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol ac amgueddfeydd ac orielau pwysig eraill ledled y DU.
Bydd y gwaith hwn yn golygu gostwng y lloriau mewn ystafelloedd ar hyd Heol y Brenin hyd at fetr yn is nag ar hyn o bryd.
Mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai'r tîm ddod o hyd i weddillion hen gegin a ddefnyddiwyd yn ystod dyddiau cynnar y Brifysgol, gafodd ei chladdu ar ôl y tân.
Yn ogystal â thystiolaeth o’r tân mawr, mae’r gwaith hefyd wedi datgelu’r hyn sy’n ymddangos fel system wresogi tan y llawr gynnar oedd wedi ei datgysylltu ers tro byd.
Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan dîm Gwasanaethau Archaeolegol Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed a fydd yn cofnodi eitemau o ddiddordeb a allai ddod i’r amlwg gan y gwaith cloddio.
Dywedodd Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg: “Mae’r Hen Goleg yn rhyfeddol ac yn datgelu ei stori ei hun wrth i ni ei ailddatblygu. Dros y blynyddoedd, mae’r adeilad wedi esblygu ac wedi’i addasu i adlewyrchu anghenion myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach, a’n rôl ni yw parhau â’r broses hon tra’n parchu ei dreftadaeth bensaernïol.
“Gallai’r tân fod wedi golygu diwedd Prifysgol Cymru yma’n 91°µÍø, ond roedd penderfyniad y myfyrwyr, y staff â chefnogaeth pobl ledled Cymru yn golygu y gallai’r gwaith ailadeiladu fynd yn ei flaen, er iddi gymryd blynyddoedd lawer i’r adeilad gael ei gwblhau. Mae’r hyn rydym wedi ei ddarganfod yn ychwanegu at ein hadnabyddiaeth o’r adeilad a bydd yn cyfoethogi hanesion yr Hen Goleg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Paratoadau ar gyfer gosod y llawr newydd yn y Cwad. Llun: Mark Lewis Photography
Bydd llawr newydd y Cwad yn 28.5 centimetr o ddyfnder ac wedi ei atgyfnerthu gyda dur ac o leiaf 10 centimetr yn fwy trwchus na'r hen lawr. Bydd hefyd yn cynnwys system wresogi tan y llawr newydd.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.
Pan fydd wedi'i gwblhau bydd yn ganolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa Prifysgol, parth Pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio 24-7 i fyfyrwyr a chyfleuster sinema flaengar.
Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y DU.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau disgwylir i'r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m yn flynyddol at yr economi leol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth mawr megis cestyll Caernarfon a Chonwy.
Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 200 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.
Disgwylir i Ran 1, sy'n cynnwys yr Hen Goleg ei hun a'r filas Sioraidd (1 a 2 Rhodfa’r Môr), gael ei gwblhau tua diwedd 2025.
Disgwylir i Ran 2, Y Cambria, gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026.
*Dyma oedd casgliad ymchwiliad y Cyrnol Syr Charles Firth, Llywydd Cymdeithas y Frigâd Dân, Llundain, i achos y tân. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn rhifyn 17 Gorffennaf 1885 The Cambrian News and Meirionethshire Standard.