Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Yma ym Mhrifysgol 91°µÍø rydym yn gartref i gymuned academaidd Gymraeg fywiog ac amrywiol, ac rydym yn awyddus iawn i’ch croesawu atom i fanteisio ar y bywyd academaidd hwnnw yn ogystal â’r cyfleoedd euraidd i fod yn rhan o fywyd cymdeithasol byrlymus y Brifysgol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Graddau a Modiwlau
Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg, ac mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhlith yr ehangaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu’n ddysgwyr. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn yn Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio yn Saesneg yn bennaf. Ceir hefyd warant o Diwtor Personol Cymraeg. Ceir hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau trawsieithu, sef y broses o ddefnyddio gwybodaeth a geir mewn un iaith mewn iaith arall wrth ysgrifennu nodiadau ac asesiadau. Mae hyn yn gyfle gwych i ddeall a dehongli deunydd darllen yn well ac i ddatblygu geirfa bwnc-benodol a fydd o fantais ichi yn y gweithle.

Ysgoloriaethau
Mae ysgoloriaethau’rar gael i fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.  Hefyd, bydd myfyrwyr sy’n astudio dros bum credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg yn derbyn Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol 91°µÍø yn awtomatig.
Mae’r cynllun Prif Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 240 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg - sef o leiaf 80 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn.
Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 120 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn pwnc cymwys, o leiaf 40 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn.

Llety a byw yn Gymraeg
Neuadd Pantycelyn yw calon bywyd Cymraeg Prifysgol 91°µÍø a neuadd breswyl enwocaf Cymru. Mae Pantycelyn hefyd yn gartref i (Undeb Myfyrwyr Cymraeg 91°µÍø). Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd megis y Geltaidd (prif gymdeithas chwaraeon Gymraeg Prifysgol 91°µÍø), Plaid Cymru Ifanc, ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau perfformio. Mae gweithgareddau’r Undeb yn amrywio o drefnu adloniant a digwyddiadau i ymgyrchu dros faterion addysgiadol, cymdeithasol a ieithyddol yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Yn bwysicaf oll mae UMCA yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o’ch amser ym Mhrifysgol 91°µÍø, yn academaidd, yn gymdeithasol ac ym mhob ffordd, ac os fydd unrhyw beth yn eich poeni chi, bydd dim rhaid ichi fynd yn bell i ofyn am gyngor.

Cyflogadwyedd
Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn sgil fanteisiol iawn yn y gweithle, ac mae astudio trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog yn datblygu’r sgiliau hyn ac yn rhoi mantais ichi yn y farchnad swyddi, nid yn unig dros ymgeiswyr di-Gymraeg ond hefyd ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg ond sydd heb ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu i lefel raddedig. Hefyd, mae cyflog graddedigion sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Addewidion Aber
Addewidion Aber yw ymrwymiad Prifysgol 91°µÍø i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r addewidion yn nodi’r hyn sy’n arbennig am 91°µÍø a sut mae’r Brifysgol yn cynnig profiad Cymraeg cyflawn.